top of page

Key Stage 4

Websites, Apps and Ebooks

Planet Science

Mae Planet Science yn wefan sy’n ysbryoldi plant i gefnogi ei astudiaeth o wyddoniaeth yn yr ysgol ac ym mhellach. Mae’r adnodd yma wedi ei greu i gefnogi dosbarthiadau ysgol, cwricwlwm, gwerslyfrau ac athrawon.

Geiriadur Cymraeg - Sbaeneg

Geiriadur ar-lein Cymraeg – Sbaeneg ar gyfer TGAU sy’n cynnwys esiamplau, berfau, a gemau. Mae’r gemau yn cynnwys croeseiriau, chwilair, a hangman.

Cyd-destunau Gwyddoniaeth

Map rhyngweithiol sy'n amlygu ac yn egluro lleoedd gwyddonol diddorol ledled Cymru, sy’n berthnasol ar gyfer cyrsiau TGAU a Safon Uwch Ffiseg, Cemeg a Bioleg. Gyda chanllawiau athrawon a thaflenni gwaith argraffadwy y gellir eu lawrlwytho, mae Cyd Destunau Gwyddoniaeth yng Nghymru yn mynd â gwyddoniaeth ar daith o'r ysgol i'r awyr agored.

Arddulliau theatr

Nod yr adnodd fydd rhoi esboniad clir i ddysgwyr am arddulliau Theatr amrywiol, sef Theatr Naturiolaidd, Theatr Fynegiannol a Theatr Symbolaidd. Bydd y dysgwyr yn medru cyfeirio at yr adnodd wrth drafod posibiliadau llwyfannu a dylunio o fewn y gwersi TGAU, UG ac Uwch.

Geiriadur Cymraeg - Almaeneg

Geiriadur ar-lein Cymraeg – Almaeneg ar gyfer TGAU sy’n cynnwys esiamplau, berfau, a gemau. Mae’r gemau yn cynnwys croeseiriau, chwilair, a hangman.

Ymarferwyr theatr

Bydd yr adnodd hwn yn arwain dysgwyr drwy brif gysyniadau ymarferwyr theatr gan roi enghreifftiau o’u harddull a thechnegau. Caiff yr adnodd ei rannu’n 4 uned, bydd pob un ohonynt yn cynnwys darnau fideo am bob ymarferwr, gyda 2 actor yn perfformio golygfa o ddrama – yn arddull yr ymarferwr. Ceir yma hefyd weithgareddau rhyngweithiol a nodiadau cefnogol i’r myfyriwr a’r athro.

bottom of page